Bydd troseddwyr yn dyfeisio mathau newydd o dwyll yn rheolaidd er mwyn ceisio dwyn eich arian oddi arnoch; bob blwyddyn bydd oddeutu 28 miliwn o ddefnyddwyr yn cael eu targedu yn y DU, ac fe gollir £1 biliwn. Er bod y dulliau’n newid o bryd i’w gilydd, yr un peth mae’n rhaid i chi ei wneud i’ch gwarchod eich hun – bod yn effro a chymryd ychydig o gamau syml.
Category: Directgov
Gwarchod eich arian a’ch manylion personol : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Mae dwyn manylion personol, twyll ar-lein a thwyll gyda chardiau credyd wedi cynyddu’n ddramatig yn ystod y blynyddoedd diwethaf. Mae nifer o gamau syml y gallwch eu cymryd i atal troseddwyr neu dwyllwyr rhag cael y wybodaeth sydd ei hangen arnyn nhw i ddwyn arian oddi wrthych neu i ddefnyddio’ch manylion. Y peth pwysig yw bod yn effro.
Cadw’ch arian yn ddiogel : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Keeping your money secure
Cynlluniau annibynnol i ddelio a chwynion ac ombwdsmyn ariannol : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Diben cynlluniau cwyno annibynnol yw ceisio datrys anghydfodau am gynnyrch neu wasanaethau ariannol yn ddiduedd. Mae eu gwasanaethau’n rhad ac am ddim i ddefnyddwyr. Fel arfer, dim ond gan un o’r cynlluniau hyn y cewch ofyn am help gyda’ch cwyn, a hynny ar ôl ceisio datrys eich cwyn dan drefn gwyno fewnol y cwmni.
Sut i gwyno am gynnyrch neu gyngor ariannol : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Os nad ydych chi’n hapus gyda chynnyrch neu gyngor ariannol a gawsoch, yna gallwch chi gwyno. Rhaid i gwmnïau a reoleiddir gan yr Awdurdod Gwasanaethau Ariannol (FSA) gael trefn gwyno, a rhaid iddynt ymateb o fewn terfynau amser penodedig. Os ydych chi’n dal i fod yn anhapus gyda’r canlyniad, gallwch gwyno wrth gynllun cwyno annibynnol.
Gwybod eich hawliau ariannol : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Rhaid i gwmni sy’n gwerthu cynnyrch a gwasanaethau ariannol ddilyn rheolau a safonau penodol a osodwyd gan ei gorff rheoleiddio ariannol. Lluniwyd y rhain er mwyn gwarchod hawliau defnyddwyr. Os nad ydynt yn glynu wrth y rheolau, cewch chi gwyno amdanynt. Hefyd, mae gennych fwy o hawliau os cawsoch chi gyngor ariannol ganddynt.
Problemau a chwynion yn ymwneud ag arian : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Financial problems and complaints
Yswiriant bywyd: y gwahanol fathau a sut i siopa o gwmpas : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Mae yswiriant bywyd yn cynnwys ‘math buddsoddi’ ac yswiriant ‘cyfnod’. Mae yswiriant math buddsoddi yn cynnwys polisïau sy’n talu allan ar ddyddiad penodol ar ôl i chi farw. Bydd yswiriant cyfnod yn talu taliad unswm os byddwch yn marw cyn dyddiad penodol.
Cymorth Rhodd : Directgov – Arian, treth a budd-daliadau
Os ydych yn talu treth yn y DU, mae Cymorth Rhodd yn ffordd hawdd o gynyddu gwerth eich rhodd i elusen trwy adael i’r elusen hawlio treth yn ôl ar eich rhodd.